Eglwys Crist, Pen-y-groes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:32, 25 Mawrth 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Llun: Geograph gan Jaggery CC-SA-4.0

Codwyd yr Eglwys Crist bresennol ym mhentref Pen-y-groes ym 1890. Gwaith y pensaer eglwysig Henry Kennedy ydyw, ac un o'r eglwysi olaf, os nad yr olaf, iddo ei dylunio. Yr adeiladydd oedd R.R. Williams, Caernarfon.[1] Mae'n ail eglwys ym mhlwyf Llanllyfni, a saif llai na milltir i'r gogledd o'r eglwys honno, nid nepell o Neuadd Goffa Pen-y-groes. Cymerodd yr eglwys bresennol le eglwys arall o'r un enw ac ar yr un safle a godwyd yng nghanol y 19g. i wasanaethu'r pentref oedd yn tyfu'n gyflym ar y pryd.[2] Gyda phum capel anghydffurfiol cyfagos, dichon bod yr awdurdodau eglwysig yn gweld bod angen eglwys yn nes at y tai newydd nag eglwys Llanllyfni.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Caernarvon & Denbigh Herald, 9 Mai 1890, t.6
  2. Gwefan Coflein, [1],cyrchwyd 24.3.2021