Eglwys Crist, Pen-y-groes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:20, 25 Mawrth 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Codwyd yr Eglwys Crist bresennol ym mhentref Pen-y-groes ym 1890. Gwaith y pensaer eglwysig Henry Kennedy ydyw, ac un o'r eglwysi olaf, os nad yr olaf, iddo eu dylunio. Mae'n ail eglwys ym mhlwyf Llanllyfni, a saif llai na milltir i'r gofledd o'r eglwys honno, nid nepell o Neuadd Goffa Pen-y-groes. Cymerodd yr eglwys bresennol le eglwys gynt o'r un enw ac ar yr un safle, a godwyd yng nghanol y 19g. i wasanaethu'r pentref oedd yn tyfu'n gyflym ar y pryd.[1] Gyda phum capel anghydffurfiol, dichon bod yr awdurdodau eglwysig yn gweld bod angen eglwys yn nes at y tai newydd nag eglwys Llanllyfni.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Coflein, cyrchwys 24.3.2021