Siân Gwenllian

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:07, 23 Mawrth 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Etholwyd Siân Gwenllian (ganed 1956) yn aelod o Senedd Cymru yn etholiad 2016. Mae'n cynrychioli etholaeth Arfon fel aelod o Blaid Cymru ac yn yr etholiad diwethaf roedd ganddi fwyafrif o 4,162 o bleidleisiau. Yn dilyn yr etholiad fe'i penodwyd yn llefarydd Plaid Cymru dros Lywodraeth Leol, yr iaith Gymraeg, Cydraddoldeb a Chynllunio. Ar hyn o bryd mae'n aelod o Bwyllgor y Senedd dros Blant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Pwyllgor Cyllid a Phwyllgor Busnes y Senedd. Daeth yn gyd-ddirprwy arweinydd Plaid Cymru yn 2018, gyda Rhun ap Iorwerth, Aelod Senedd dros Fôn yn gweithredu fel y dirprwy arweinydd arall. Hefyd yn Nhachwedd 2018 fe'i penodwyd yn un o Gomisiynwyr Comisiwn y Cynulliad ac roedd yn gyfrifol am ieithoedd swyddogol ac am y modd y darperid gwasanaethau i Aelodau'r Senedd.