Iwan Wyn Parry

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:49, 21 Mawrth 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Fe ganed Iwan Wyn Parry yn Llanymddyfri, yn fab i'r canwr adnabyddus ac arweinydd côr, Arthur Wyn Parry. Cafodd ei fagu yn Y Groeslon. Ar ol mynychu Ysgol y Groeslon ac Ysgol Dyffryn Nantlle, fe gafodd ei hyfforddi fel milfeddyg ym Mhrifysgol Caeredin. Wedi hynny, ymsefydlodd fel milfeddyg yn Nolgellau.

Bu'n cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1983 a 1991, pan oedd yr Eisteddfod yn yr Wyddgrug. Yn yr eisteddfod honno enillodd y Rhuban Glas, um o enillwyr ieuengaf y wobr honno. Wedi cafodd ail yrfa fel unawdydd bas ochr yn ochr â'i waith beunyddiol, gan ganu mewn perfformiadau o weithiau megis y Meseia. Canodd hefyd yng Nghymanfa Ganu Gogledd America, yn Norwy ac yn Awstralia a Seland Newydd gyda Chôr Godre'r Aran. Mae o hefyd yn areinydd cor ym Meirionnydd.