Mynydd Gurn Goch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:33, 18 Mawrth 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mynydd Gurn Goch yw'r mwyaf gogleddol o'r tri chopa - sef Moel Penllechog (neu Mynydd Tan-y-graig i roi enw arall arno), Gurn Ddu a Gurn Goch. Mae Mynydd Gurn Goch yn codi'n serth iawn a phigfain uwchlaw pentref Gurn Goch ac yn bwrw ei gysgod trosto. O ganlyniad nid yw'r pentref yn gweld fawr o'r haul am rai wythnosau o fis Tachwedd i ganol Chwefror. Mae'n 492 metr o uchder, gyda Gurn Ddu yn 522m a Moel Penllechog yn 316m. Nid oes llwybr penodedig i ben Gurn Goch, ond gellir mynd ar hyd y llwybr cyhoeddus drwy Goed Cwm-gwared hyd at y rhaeadr ar Afon Hen ym mhen ucha'r coed, ac yna mynd ar draws y gweundir serth i'r copa. Ar yr ochr ddwyreiniol, sy'n wynebu gwastadedd Eifionydd, mae llethrau'r Gurn Goch yn llawer esmwythach fodd bynnag. Lle mae'r tir yn dod yn fwy gwastad rhwng Gurn Goch a mynydd Bwlch Mawr ceir olion nifer o hen gorlannau defaid a thai crynion. Gerllaw'r rhain mae tir corsiog lle mae Afon Hen yn tarddu ac mae enw pur enbyd ar y gors hon, sef Corsyddalfa. Mae'n debyg bod nifer wedi mynd i drafferthion ynddi ddyddiau a fu ac mae'n llecyn i'w osgoi o hyd.