John Thorman
Cyrrhaeddodd John Thorman ystâd Glynllifon ar 28 Hydref 1812 i ddechrau ar ei swydd fel cipar. Fel arfer, chwiliai rheolwyr yr ystâd am gipar nad oedd yn gyfarwydd a'r bobl leol, ac felly'n llai debygol o droi ei gefn pe welai rywbeth amheus yn ystod ei ddyletswyddau. Doedd Thorman ddim yn eithriad yn hynny o beth. Ganed ef yn Easingwold, Swydd Efrog tua 1783.
Cadwodd Thoman ddyddiaduron wedi eu hysgrifennu yn ei dafodiaith nodweddiadol o Swydd Efrog am bron i hanner canrif. Ynddynt y mae yn cofnodi ei ddyledswyddau fel cipar, hanesion y stâd, ei deulu a’r fro.
Yn ogystal â hanes ei waith mae’n cofnodi’r tywydd,e.e storm pan olchodd y môr dros dir Caer Loda, comet danllyd a welodd ar Orffennaf 8fed 1816, diffyg yr haul a rhew a barhaodd am chwe wythnos yn ystod Gaeaf 1820/1821.
Arhosodd y teulu yn yr ardal ar ol dyddiau John Thorman, ac mae ei ddisgynyddio yn yr ardal o hyd, ac yn Gymry Cymraeg ers cenedlaethau.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma