Robert Vaughan Wynn, 6ed Arglwydd Newborough

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:21, 20 Chwefror 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Etifeddodd Robert Vaughan Wynn (1877-1965) y teitl Arglwydd Newborough oddi wrth ei gefnder, y 5ed Arglwydd ym 1957, gan nad oedd gan hwnnw fab. Mab ydoedd i'r Anrh. Charles Henry Wynn, Rhug ger Corwen, yntau'n drydydd mab i'r 3ydd Arglwydd a'i wraig Frances (Romer gynt).

Er bod Plas Glynllifon ei hun wedi ei werthu gan ei gefnder ym 1949, roedd yn dal yn berchen ar erwau eang o hen Ystad Glynllifon ynghyd ag ystad Boduan ym Mhen Llŷn, ac ystad sylweddol y Rhug, sef ei gartref.

Gwasanaethodd yn Rhyfel y Boer, ac yn y ddau ryfel byd. Roedd yn ynad heddwch ac yn ddirprwy arglwydd raglaw. Cafodd yr OBE am ei wasanaeth ym 1944.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau