Thomas John Wynn, 5ed Arglwydd Newborough

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:50, 19 Chwefror 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Dilynodd Thomas John Wynn (1878-1957), ei frawd hŷn fel y 5ed Arglwydd Newborough wedi i hwnnw farw ym 1916 yn sgîl afiechyd a ddaliodd tra'n gwasanaethu yn Ffrainc gyda'r Gwarchodlu Cymreig.

Bu'n briod deirgwaith: yn gyntaf, Vera Evelen Mary Winch o Down Hall, Swydd Dorset, 1907-1938; cawsant un ferch, Yr Anrh. Stella Maria Glyn Wynn (1908-1977).

Wedi ysgariad ym 1938, priododd â Denisa Josephine Malpuech (cyn-wraig Jean Malpuech, Rheolwr Laos),a merch Lazar Braun, Subotica, Iwgoslafia. Bu hon yn achosi peth sgandal yn y teulu wedi iddi hithau gael ei hysgaru gan ei gŵr. Ysgrifennodd hi lyfr, "Fire in my Blood". Cafodd Arglwydd Newborough a hithau un ferch, yr Anrh. (Blanche-Neige) Juno Palma Odette Denisa Wynn (g. 1940), a fu'n debutante a briododd Philip Wolfe-Parry, Wimbledon Park, Llundain ym 1963.

Trydedd wraig Thomas John Wynn oedd Katherine Rudkin Murray, merch Henry Stephen Murray, Melbourne, Awstralia. Fe briododd y ddau fis Awst 1947, a bu'r Arglwyddes Newborough hon fyw tan 1979, mewn tŷ ar gornel ystâd yn y Bontnewydd wedi iddi golli ei gŵr.