William Charles Wynn, 4ydd Arglwydd Newborough

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:01, 18 Chwefror 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ni chafodd William Charles Wynn (1873-1916) a etifeddodd y teitl "Arglwydd Newborough" ar farwolaeth ei daid, y 3ydd Arglwydd, Ystad Glynllifon fel etifeddiaeth, heblaw am ychydig o dir ym Mlaenau Ffestiniog ond yn y fan honno yr oedd gwir werth yr ystad erbyn i'w daid farw ym 1888, gan mai yno yr oedd dwy o chwareli llechi mwyaf y Blaenau, a'r cwbl oedd perchennog y chwareli wneud oedd eu gosod ac wedyn derbyn breindaf o hyn a hyn y dunnell o bopeth a gynhyrchid heb orfod gofidio am problemau a threuliau rhedeg ystâd wledig arferol. Fel canlyniad, mi wnaeth ei gartref yn Ffestiniog ac mae o wedi claddu yno mewn claddfa breifat. Bu'n farw'n ifanc wedi iddo ddal oerfel ar y Ffrynt Gorllewinol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, lle y gwasanaethodd fel Liwtenant yn y Gwarchodlu Cymreig.[1]

Ei dad oedd yr Anrhydeddus Thomas John Wynn (1840-1878), mab hynaf y y 3ydd Arglwydd Newborough; ond bu hwnnw farw o flaen ei dad (a fywiodd nes ei fod yn 85 oed). Roedd ei fam, Sybil Anna Catherine Corbett (1854-1911), yn ferch i ddiplomydd Prydeinig, ac fe'i ganed yn Washington DC.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Cracroft's Peerage, [1], cyrchwyd 18.2.2021