William Charles Wynn, 4ydd Arglwydd Newborough

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:48, 18 Chwefror 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ni chafodd William Charles Wynn (1873-1916) a etifeddodd y teitl "Arglwydd Newborough" ar farwolaeth ei daid, y 3ydd Arglwydd, Ystad Glynllifon fel etifeddiaeth, heblaw am ychydig o dir ym Mlaenau Ffestiniog ond yn y fan honno yr oedd gwir werth yr ystad erbyn i'w daid farw ym 1888, gan mai yno yr oedd dwy o chwareli llechi mwyaf y Blaenau, a'r cwbl oedd perchennog y chwareli wneud oedd eu gosod ac wedyn derbyn breindaf o hyn a hyn y dunnell o bopeth a gynhyrchid heb orfod gofidio am problemau a threuliau rhedeg ystâd wledig arferol.

Ei dad oedd yr Anrhydeddus Thomas John Wynn, mab hynaf y y 3ydd Arglwydd Newborough a Fanny de Winton ei wraig; ond bu hwnnw farw o flaen ei dad (a fywiodd nes ei fod yn 85 oed).

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau