Afon Gopr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:54, 13 Chwefror 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Afon Gopr yw'r hen enw a arddelid gan drigolion y dyffryn am y darn o Afon Llyfni o'i tharddiad nes iddi lifo i mewn i Lyn Nantlle Uchaf. Dichon mai oherwydd y ffaith fod yr afon yn llifo heibio i fwynfa Gwaith Copr Simdde'r Dylluan, gan fagu lliw copr o wastraff y gwaith, y cafodd yr enw ei fabwysiadu. Oherwydd yr halogi a achosid gan y mwynau a ddeuai o'r gwaith i mewn i'r dŵr nid oedd yr un frithyllen yn gallu byw yn yr afon. Enw arferol y rhan hon o'r afon bellach yw Afon Drws-y-coed.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Thomas Alun Williams, "Afonydd Nantlle", Baladeulyn Ddoe a Heddiw, cyhoeddwyd yn ddigidol yn unig ar wefan Nantlle.com [1]