Afon Drws-y-coed
Afon Drws-y-coed yw'r enw a roddir fel arfer ar yr afon sy'n llifo i mewn i Lyn Nantlle Uchaf, er, mewn gwirionedd, rhan uchaf Afon Llyfnwy ydyw. Mae ei tharddiad yng nghorsydd Bwlch-y-moch uwchben Drws-y-coed a Rhyd-ddu.
Defnyddid dŵr yr afon i droi peiriannau'r gwaith metel yn Nrws-y-coed, ac i olchi'r mwynau a ddaeth o'r mwynfeydd. oherwydd hyn trowyd dŵr yn afon yn gochaidd, ac enw'r ardalwyr arni felly oedd Afon Gopr. Roedd y mineralau yn y dŵr a ddaeth o'r gwaith yn golygu nad oedd brithyll yn gallu byw yn yr afon o gwbl.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma