Penybont, Bontnewydd
Mae Penybont, Bontnewydd yn dŷ ar lan Afon Gwyrfai a'i dalcen ar un pen i bont y pentref, sef Y Bont Newydd. Mae wedi bod yn gragen ers bron i hanner can mlynedd ond yn ddiweddar iawn mae o'n cael ei adnewyddu'n llwyr.
Arferai'r adeilad fod yn ddwy siop, un yn siop dilledydd a'r llall, a gedwid gan Ann Owens yn gynnar yn y 20g., yn gwerthu diodydd pefriog a fferins. Yn ôl Cyfrifiad 1891, fe'i disgrifiwyd fel "llythyr-gludydd" (letter carrier). Yn ôl Cyfrifiad 1911, roedd hi wedi bod yn byw ym Mhenybont ers 20 mlynedd; gweddw ydoedd, gyda 6 o blant yn fyw - a chwech wedi marw o'i blaen; nododd ar y ffurflen mai 70 oed oedd hi ac mai un o Borthaethwy, Sir Fôn ydoedd. Yr oedd hi'n uniaith Gymraeg.[1] Cofiai Evie Glyn Roberts o dai Pentreuchaf ei bod hefyd yn gwerthu halen, ac yn ei dorri oddi ar lwmp solet ar y cownter gyda lli wedi ei gwneud allan o lechen.[2]
Yn ôl y Cyfrifiad, yn nhŷ Ann Owens yr oedd 5 ystafell, a 4 y drws nesaf lle trigai Richard ac Elisabeth Thomas a'u tri phlentyn. Yr oedd Ann Williams, hen ddynes 68 oed, yn byw yn y trydydd tŷ, oedd â 2 ystafell yn unig.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma