Craig y Farchas
Y mae Craig y Farchas yn glogwyn ar ben ogleddol mynyddoedd Yr Eifl, uwchben tir pori a elwid yn Farchas, rhan o fferm Nant Bach pan wnaed y Map Degwm ym 1839.[1] Y pryd hynny yr oedd y gwaith chwarelu am ithfaen heb gychwyn yno, ond ym 1844, agorwyd gwaith setiau gan John Hutton yn yr Hen Ffolt islaw'r graig; ac yn fuan wedyn tyfodd chwarel dau fonc ar y graig uwchben.
Erbyn hyn, mae'r graig ei hun wedi diflannu i raddau dan dipiau Chwarel yr Eifl.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ LLGC Map a Rhestr Bennu'r Degwm ar gyfer plwyf Llanaelhaearn, 1839