Tafarn y Sportsman, Gurn Goch
Bu tafarn o'r enw'r Sportsman ym mhentref Gurn Goch am rai blynyddoedd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r adeilad yn dal ar ei draed ac wedi ei droi'n dŷ ers blynyddoedd maith. Wrth ei ochr mae rhes o fythynnod a elwir yn Sportsman Row o hyd. Roedd y dafarn fel y gwelir mewn lle hwylus ar ochr y briffordd o Bwllheli i Gaernarfon ac mae'n sicr ei bod yn dibynnu i raddau helaeth ar bobl yn pasio am ei chwsmeriaid, naill ai ar droed, ar gefn ceffylau neu yn y goits fawr, gan ei bod yn anodd credu y gallai lle mor fach â Gurn Goch ei hun gynnal tafarn. Hefyd, wrth gwrs, roedd tafarn fwy a llawer pwysicach ym mhentref Clynnog Fawr gerllaw, sef Y Plas (Gwesty'r Beuno yn ddiweddarach).
Un a fu'n cadw'r Sportsman am rai blynyddoedd ddiwedd y 1850au a dechrau'r 1860au oedd Robert Evans. Roedd yn enedigol o ardal Dwygyfylchi ac ar ôl gadael y Sportsman symudodd i Glanllyn, Llanaelhaearn, gan ffermio y tyddyn yno a phorthmona cryn dipyn. Er iddo weithredu am gyfnod fel tafarnwr roedd yn grefyddwr ac yn Fethodist pybyr hefyd ac roedd yn un o brif ysgogwyr sefydlu Capel Y Babell (MC), Llanaelhaearn. Bu farw ym 1915 ac roedd yn hen hen daid i awdur hyn o lith.
Er mai i'r Plas yng Nghynnog y cyrchai Eben Fardd ran amlaf am lymaid neu ddau (roedd y fan honno'n llythrennol o fewn taflaid carreg i'w gartref Bod Gybi), eto ceir nifer o gyfeiriadau yn ei ddyddiaduron am ei ymweliadau â'r Sportsman hefyd.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Gwybodaeth bersonol