Goronwy Prys Owen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:42, 17 Tachwedd 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae'r Parchedig Ddoctor Goronwy Prys Owen yn weinidog wedi ymddeol gyda'r Methodistiaid Calfinaidd (Eglwys Bresbyteraidd Cymru), yn bregethwr grymus, yn ysgolhaig disglair ac yn awdur sawl cyfrol o bwys.

Magwyd Goronwy Prys Owen ym Mangor, lle roedd gan ei dad siop fferyllydd ar Ffordd Caergybi ym Mangor Uchaf. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor ac yng Ngholeg Y Bala cyn ei ordeinio i waith y weinidogaeth gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Ei ofalaeth gyntaf oedd yn ardal Llidiardau ger Y Bala, lle cyfarfu ag Eirlys, a ddaeth yn wraig iddo maes o law. Oddi yno fe symudodd yn weinidog ar eglwys Maesgeirchen, ar gyrion Bangor, lle bu am gyfnod byr, cyn dod i weinidogaethu ar eglwysi Capel Gosen (MC), Trefor, Capel Y Babell (MC), Llanaelhaearn a Chapel Chwmcoryn ym 1969. Yn ystod ei gyfnod ym Mro'r Eifl daeth i amlygrwydd fel pregethwr grymus ac uchel ei barch ac roedd ei ofal dros feithrin a hyfforddi plant ac ieuenctid yr eglwysi yn nodedig, yn arbennig eu paratoi i ddod yn gyflawn aelodau. Hefyd yn ystod ei gyfnod yn Nhrefor, ganed merch, Rhiell Elidir, iddo ef ac Eirlys; roedd eu mab, Siôn Illtud, wedi ei eni tra oeddent ym Maesgeirchen. Colled fawr i'r ardal fu ei benderfyniad ganol y 1970au i dderbyn galwad i Eglwys Heol y Dŵr, Caerfyrddin, a sefydlwyd gan un o Fethodistiaid amlycaf y ddeunawfed ganrif, Peter Williams yr esboniwr Beiblaidd. O Gaerfyrddin symudodd Goronwy Prys Owen yn weinidog i Lanrwst, lle bu tan ei ymddeoliad. Ers rhai blynyddoedd bellach mae ef a'i briod wedi ymgartrefu yn Y Bala.

Fel y nodwyd uchod mae Goronwy Prys Owen yn bregethwr grymus yn y traddodiad efengylaidd. Yn Galfinaidd ei ddiwinyddiaeth mae bob amser yn rhoi pwyslais mawr ar burdeb athrawiaeth yn ei bregethau ac mae ei sylwadau ar bob achlysur yn Feibl-ganolog. Yn ystod ei yrfa mae wedi pregethu ym mhrif gyrddau ei enwad ac yn ehangach, megis yng nghynadleddau Mudiad Efengylaidd Cymru.

Daeth Goronwy Prys Owen i amlygrwydd fel ysgolhaig a llenor disglair yn ystod ei gyfnod ym Mro'r Eifl. Yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dwyfor ym 1975 enillodd y wobr am draethawd sylweddol ar Twf Methodistiaeth yn Llŷn ac Eifionydd hyd 1811. Arweiniodd hynny at gyhoeddi ei gyfrol arloesol Methodistiaeth Llŷn ac Eifionydd dair blynedd yn ddiweddarach, sydd yn fwynglawdd o wybodaeth am y pwnc ac wedi'i seilio ar ymchwil drwyadl. Cyfrol arall o'i waith yn ystod y cyfnod hwn oedd Hunangofiant John Elias (Mudiad Efengylaidd Cymru 1974). Ar hyd y blynyddoedd dilynol mae wedi parhau i ymchwilio a chyhoeddi'n helaeth ac, yn ogystal â nifer sylweddol o ddarlithoedd ar amryfal bynciau, priodol yw nodi ei gyfrolau ar Canu Cynnar y Diwygiad Methodistaidd (Darlith Davies 2010 - cyhoeddwyd ar ran y Gymanfa Gyffredinol 2016) a Thomas Charles a'r Bala (Cantref 2016).