Chwarel Craig y Farchas, Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:45, 4 Chwefror 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel Craig y Farchas oedd y chwarel go iawn gyntaf agorwyd ar fynydd Garnfor yn Nhrefor, er bod y Gwaith Setiau (setts) cyntaf wedi bod yn weithredol ar ben yr allt-môr is-law ers 1844 yn yr Hen Ffolt.

Erbyn 1854 roedd y cerrig rhyddion (cerrig tir) a gloddid yn Hen Ffolt y Gorllwyn wedi eu dihysbyddu bron yn llwyr. Rhaid, felly, oedd edrych i'r mynydd ei hun am ffynonellau newydd o'r garreg ithfaen. Craig y Farchas uwchben fu'r dewis amlwg, ac ar Galan Mai 1854 llofnodwyd, ar ran y Cwmni Ithfaen Cymreig (The Welsh Granite Company), brydles newydd 21 mlynedd ac agor chwarel newydd o ddwy bonc rhyw 90 metr uwchlaw lefel y môr. Hon oedd Chwarel Craig y Farchas oedd, ar un wedd, yn estyniad i Waith Setiau'r Hen Ffolt is-law. NID hon oedd Chwarel yr Eifl a ddaeth i fod rhyw 12-13 mlynedd yn ddiweddarach, sef y chwarel y gwyddom ni amdani ac a welir ar y mynydd heddiw.

Agorwyd y gyntaf o ddwy bonc ar Graig y Farchas, wedi ei lleoli uwchben Pant y Farchas a rhan o Allt Eithin Nant Bach, gan edrych i lawr ar y Cerrig Mawr ar draeth y Gorllwyn a'r rhigol o ble byddid yn cario cerrig yr Hen Ffolt i longau a angorid yn y dwfn. Goruchwyliwyd y cyfan gan y fforman, Trefor Jones.

Chwarel fechan oedd hi ac ers blynyddoedd maith aeth y ddwy bonc o'r golwg dan y Domen Fawr o'r chwarel ddiweddarach ar graig Cae'r Foty (Chwarel yr Eifl / Y Gwaith Mawr). Ni cheid cerrig rhyddion yma wrth gwrs, a byddai'n rhaid saethu'r graig i gael cerrig i'w troi'n setiau.

Cludid y setiau o'r ddwy bonc i lawr inclên fechan, ond peryglus o serth. Nid rhaffau gwifrau fel yn ddiweddarach a ddefnyddid i ollwng y gwagenni llawnion, ond cadwyni trymion. Roedd gan y cadwyni hyn gymaint o sŵn fel y'u clywid yn aml o'r Hendref ei hun, dros filltir i ffwrdd.

Ond nid hynny oedd y gŵyn fwyaf amdanynt. Roeddent yn beryg bywyd! Gallai John Hutton adrodd wrth Fwrdd y Cyfarwyddwyr (16 blynedd yn ddiweddarach) fod y cadwyni hyn yn torri'n aml - bod y dolenni'n torri gyda'r canlyniad fod damweiniau'n digwydd, damweiniau, meddai, i'r wagenni(!) er bod dynion yn cael eu lladd hefyd.

Yn ystod blynyddoedd cynta'r unfed ganrif ar hugain, buwyd yn cario miloedd o dunelli o gynnwys hen domennydd rwbel Chwarel yr Eifl i ar gyfer tirlenwi ac adeiladu ffyrdd etc. Bellach, credir fod rhan o bonc uchaf y chwarel hon yn dod i'r golwg wedi canrif a rhagor o fod ynghudd dan Domen Fawr y Gorllwyn.