Chwarel yr Eifl
'Chwarel yr Eifl' fu, ac ydyw, enw swyddogol y chwarel fawr welir ar lethr gogleddol Mynydd Garnfor, yr agosaf i'r môr o driawd Mynyddoedd yr Eifl, y ffin rhwng C wmwd Uwchgwyrfai a Chwmwd Dinllaen, a rhwng Cantref Arfon a Chantref Llyn.
Yng nghofnodion y cwmnïau fu'n berchnogion arni o'r cychwyn ei henw oedd 'Eifl Quarry', ond ar dafodau'r cyhoedd rhoddwyd a defnyddiwyd enwau eraill.
'Y Gwaith' oedd ac ydi enw pobl Trefor ar y lle. Mewn cylch ehangach defnyddid 'Gwaith Llanhuar' (Llanaelhaearn), ac fel y tyfodd y chwarel aeth yn 'Gwaith Mawr Llanhuar', ac yn dim ond y 'Gwaith Mawr'.