Trwyn y Tâl

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:29, 18 Ionawr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Trwyn y Tâl yw'r penrhyn crwn ar yr arfordir rhwng harbwr Trefor a'r darn gweddol wastad o dir sydd wrth sawdl Mynydd Garnfor (Mynydd Gwaith) a elwir Gorllwyn (weithiau Hen Ffolt). Does neb o bobl y fro yn ei adnabod fel Trwyn y Tâl, ond yn hytrach fel Y Clogwyn, neu Pen Clogwyn, neu Clogwyn y Morfa.

Bu'r Clogwyn yn rhan o fferm y Morfa tan yn gymharol ddiweddar ac yn eiddo Ystad Glynllifon, ond bellach mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi ei brynu. Mae Llwybr Arfordir Cymru'n mynd yr holl ffordd trosto (o gyfeiriad Clynnog Fawr at Fwlch yr Eifl).

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma