Llwyn Impia

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:16, 26 Ionawr 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Fferm yn ardal Pontllyfni yw Llwyn Impia. Ar ôl croesi dros Bont y Cim o gyfeiriad Pontllyfni a mynd yn syth ymlaen, mae'r lôn i Llwyn Impia ar y chwith ymhen ychydig gannoedd o lathenni, a bron dros y ffordd â lôn fferm Eithinog Wen.

Am gyfnod byr o oddeutu 1816 tan 1820 bu Llwyn Impia yn gartref i un o bregethwyr ac awduron crefyddol amlwg y cyfnod, sef Richard Jones o'r Wern (1772? - 1833). Magwyd Richard Jones yn Coed-cae-du, plwyf Llanystumdwy ond cafodd gyfnodau o addysg yn Uwchgwyrfai, sef dan Robert Jones, Rhos-lan, ym Mrynengan a chyda John Roberts yn Llanllyfni. Symudodd ef a'i deulu o Goed-cae-du i Lwyn Impia tua 1816 - y flwyddyn y cafodd ei ordeinio'n weinidog - ac fe wnaethant aros yno am rhyw dair i bedair blynedd cyn symud i'r Wern, Llanfrothen. Yno y treuliodd weddill ei oes a daeth i gael ei adnabod fel Richard Jones o'r Wern. Daeth Y Wern yn ganolbwynt i grefydd Fethodistaidd yr ardal ac yn ogystal â theithio'n helaeth i bregethu, anfonai Richard Jones gynhyrchion o'i waith yn rheolaidd i bapurau a chylchgronau fel Seren Gomer, Goleuad Cymru ac Y Drysorfa. Roedd yn emynydd gweddol gynhyrchiol hefyd ac ym 1835, ddwy flynedd wedi ei farw, cyhoeddwyd casgliad o'i emynau dan y teitl Hymnau a Chaneuon Ysbrydol a Duwiol, dan olygyddiaeth ei gyfaill John Elias. [1]

Cyfeiriadau

[1] Gweler ysgrif ar Richard Jones yn Y Bywgraffiadur Cymreig ar-lein.