Gwesty'r Beuno
Mae Gwesty'r Beuno yn hen dafarn yn dyddio o oes y coets fawr yng nghanol pentref Clynnog Fawr, ac yn wir dywedir fod rhannau o'r adeilad yn mynd yn ôl i'r 16g. Dichon hefyd bod llety o ryw fath wedi bod yng Nghlynnog ers cyfnod y pererindota i Enlli, gan fod Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr wedi bod yn gyrchfan i bererinion erioed. Mae hefyd yn sefyll hannaer ffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli, ac yn fan strategol ar gyfer newid ceffylau a chael toriad ar y siwrne yn yr hen oes. Erbyn hyn, mae wedi ei droi'n llety hunan-ddarpar ar gyfer grwpiau o hyd at ddau ddwsin o bobl.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma