C.H. Darbishire

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:17, 21 Ionawr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd y Cyrnol Charles Henry Darbishire yn un o reolwyr a pherchnogion Cwmni Penmaenmawr ac Ithfaen Cymreig Cyf. Bu cysylltiad clos rhwng chwareli Penmaenmawr ac ardal Trefor ers i Samuel Holland agor Chwarel Gwylwyr yn y 1830au cynnar, gan gyflogi gweithwyr o chwareli Penmaenmawr ar y dechrau. Ym 1878, cymerodd teulu Darbishire chwareli Penmaenmawr drosodd wrth iddynt brynu Ystad Pendyffryn, Dwygyfylchi. Cymerodd y Cyrnol C. H. Darbishire y swydd o reolwr y chwarel. Roedd ganddo gymwysterau priodol gan ei fod wedi bod yn brentis Peirianneg Sifil gyda'r cwmni a oedd yn adeiladu Rheilffordd Mynydd Genis rhwng Ffrainc a'r eidal. Cynyddodd gweithgaredd y chwareli o'r flwyddyn honno; roedd dwwy chwarel gan y teulu: Graiglwyd, neu'r Hen Chwarel dan Darbishire ei hun, a Chwarel Penmaenmawr yn parhau â'i gwmni ei hun hyd nes 1911 pan ffurfiwyd cwmni newydd ar gyfer chwareli ithfaen Penmaenmawr a Threfor, sef y Penmaenmawr & Welsh Granite Co. Ltd, dan gadeiryddiaeth y Cyrnol Darbishire hyd ei farwolaeth ym 1929.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Haydn Mather, rhagymadrodd i restr o ddogfennau Chwarel Penmaenmawr, 2007