Llyn-y-gele

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:41, 11 Ionawr 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Fferm ar gyrion pentref Pontllyfni yw Llyn-y-gele. Mae'n enw diddorol gan ei bod yn amlwg fod llyn arbennig yno ar un cyfnod lle deuai meddygon, neu apothecarïaid fel y gelwid hwy cyn hynny, i gasglu gelod (leeches) i drin eu cleifion. Am ganrifoedd bu gelod yn cael eu defnyddio'n helaeth mewn meddygaeth i sugno gwaed o amgylch briwiau ac yn y blaen er mwyn tynnu amhureddau o'r corff a hefyd wella cylchrediad y gwaed ac atal ceuledau. Fodd bynnag, wrth i feddygaeth ddatblygu fel proffesiwn modern, a chyda'r cynnydd mewn defnyddio cyffuriau cemegol, aeth defnyddio gelod yn hynod anffasiynol a'i gysylltu â "meddygon cwac" i bob pwrpas. Ond yn ystod y degawdau diwethaf mae defnyddio'r creaduriaid hyn wedi cael ei ailsefydlu yn y byd meddygol proffesiynol ac maent yn cael eu magu mewn labordai at ddefnydd meddygon. Bellach mae triniaethau'n defnyddio gelod yn cael eu defndyddio a'u cymeradwyo gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ceir nifer o gyfeiriadau at y therapïau hyn ar y rhyngrwyd, megis taflen gyda'r teitl Leech Therapy - Information for Patients gan Oxford University Hospitals NHS Foundation Trust.

Yn ôl y sôn yn Llyn-y-gele hefyd y dyweddïodd David Lloyd George a'i ddarpar-wraig, Margaret, merch fferm Mynydd Ednyfed, Cricieth. Roedd Margaret yn perthyn i deulu Llyn-y-gele ac wedi dod yno am gyfnod o wyliau. Pan glywodd Lloyd George, a oedd eisoes wedi dechrau ei chanlyn, ei bod yno, prysurodd am Lyn-y-gele a gofyn iddi ei briodi yn slei yn y fan honno, gan nad oedd teulu Mynydd Ednyfed yn cymeradwyo'r berthynas i bob golwg. Beth bynnag, dyweddïo a fu ac fe'u priodwyd yn ddiweddarach yng Nghapel Pencaenewydd.