Tal-y-mignedd Uchaf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:17, 11 Ionawr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Tal-y-mignedd Uchaf yn fferm ym mhlwyf Llanllyfni ar ochr ddeuheuol rhan uchaf Dyffryn Nantlle ar lethrau Mynydd Tal-y-mignedd. Yr oedd yn rhan o Ystad y Faenol, ac ar ei dir fe ddatblygwyd Gwaith Copr Simdde'r Dylluan yn y 18-19g.

Tua 1800, Evan David oedd y prydlesai, ac yn ffermio'r tir. Cododd hwnnw ddau beudy newydd at y tri oedd yno eisoes ynghyd â stabl ger y tŷ fferm. Yn ol adroddiad arolygwr yr ystad, roedd popeth wedi ei gadw mewn cyflwr da gan Evan David. Tir pori oedd bron y cwbl, dim ond ychydig dros ddwy acer yn cael eu haredig. Roedd llawer iawn o goed derw ar y tir, peth codd ynn ac ychydig o goed bedw.[1]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. R.O. Roberts, Farming in Caernarvonshire around 1800 (Caernarfon, 1973), t.54