Bleddyn Owen Huws

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:35, 6 Ionawr 2021 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Dr Bleddyn Owen Huws, sy'n enedigol o Lanllyfni yn Nyffryn Nantlle, yn ysgolhaig a hanesydd ym maes llenyddiaeth Gymraeg ac mae'n Uwch Ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth. Fe'i hetholwyd yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2018. Ei brif faes ymchwil yw cyfnod y Cywyddwyr a'r Dadeni (y bymthegfed i'r ail ganrif ar bymtheg) ac mae wedi cyhoeddi'n helaeth hefyd ar rai o lenorion gwerin Eryri yn yr ugeinfed ganrif. Mae'n ddarlithydd poblogaidd ac yn cyfrannu'n rheolaidd i gymdeithasau diwylliannol a hanes ledled Cymru. Ar y cyd ag A. Cynfael Lake sefydlodd y cylchgrawn Dwned ym 1995 ac mae'r ddau'n parhau i'w gyd-olygu. Cylchgrawn yn ymdrin â llenyddiaeth a hanes Cymru yn yr Oesoedd Canol yw hwn. Ymysg ei weithiau cyhoeddedig diweddaraf gellir nodi Diflanedig Fyd - Gohebiaeth Carneddog a Gwallter Llyfni 1926-1932, (Cyhoeddiadau Barddas 2010), a Pris Cydwybod: T.H. Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr, (Y Lolfa, 2018).