Neuadd Rhosgadfan
Roedd Neuadd Rhosgadfan yn adeilad pren sylweddol a a safai ar ochr y lôn heibio i'r ysgol. Fe adeiladwyd ym 1933-4 gan weithwyr lleol a roddoidd eu llafur am ddim. Fe'i hagorwyd gyda chryn rhwysg gan dywysog Cymru, y brenin Iorwerth VIII wedi hynny.[1] Yn anffodus, fe'i llosgwyd yn llwyr yn 2004, gan golli llyfrgell fach a lluniau hanesyddol o'r agoriad a digwyddiadau eraill. Ar y pryd, bu cryn amheuaeth mai achos o arson oedd y tu ôl i'r digwyddiad. Roedd wedi cau o ran defnydd ers 2002.[2]
Yn ystafell fach tu ôl i'r llwyfan y cyfarfu pwyllgor y gyfres deledu C,mom Midffîld yn ogystal a llawer o bwyllgorau go iawn a Chyngor Cymuned Llanwnda.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma