Siop y Felin, Nantlle
Roedd Siop y Felin ym mhentref Nantlle ar draws y ffordd i'r Barics, ac am amser bu'n Swyddfa Bost ar gyfer pentref Nantlle. Mae'r adeilad wedi ei newid a'i addasu'n dŷ annedd yn unig erbyn hyn. Nid oes Swyddfa'r Bost yn Nantlle bellach, ond yn y man, symudodd y Swyddfa Bost o Siop y Felin i'w safle olaf, wrth y drofa yn y ffordd fawr ger Plas Nantlle.
o'r 1920au ymlaen, un o feibion Tal-y-mignedd Isaf, Robert Hughes Jones, oedd yn cadw'r siop a'r post, wedi iddo ddychwelyd o wasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Am gyfnod bu i'w frawd Evan redeg y siop gydag ef nes i Robert briodi. [1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Gwybodaeth gan y teulu