Cerddoriaeth yn Nyffryn Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:32, 2 Ionawr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae hon yn erthygl fer sydd yn crynhoi rhai o brif elfennau traddodiad Cerddoriaeth yn Nyffryn Nantlle. Gweler erthyglau unigol ar gorau a chantorion unigol sydd wedi eu nodi mewn print glas.

Fel y digwyddodd mewn rhannau eraill o Gymru, yr hyn a ysgogodd gymaint o weithgaredd corawl oedd mudiad y tonic sol-ffa a dosbarthiadau sol-ffa a gynhelid gan y capeli'r rhan amlaf. Dyn dwad i Ddyffryn Nantlle oedd Hugh Owen, (1832-1897) Sefydlodd fusnes yn Nhalysarn fel crydd, ond treuliodd lawer o'i amser yn teithio cyn belled a dinasoedd Lloegr gyda'r Tal-y-sarn Glee Singers. Ym 1871 daeth ei gôr cymysg yn gyntaf yn Eisteddfod Porthmadog. Dilynodd ei fab, Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy) (1869-1930) ei dad fel cerddor er iddo arbenigo'n fwy mewn trefnu cerddoriaeth. Roedd traddodiad offerynnol cryf yn Nyffryn Nantlle hefyd a gwnaeth Pencerdd Llyfnwy waith sylweddol yn y maes yma.

Ym1894 cystadlodd Côr Meibion Dyffryn Nantlle a Chôr Plant Talysarn yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon. Ym 1902, cychwynnodd [[J. Owen fel arweinyy y Côr Meibion

Athro ffiseg yn Ysgol Brynrefail oedd C.H. Leonard ac ar ddechrau'r 1930'au, fe'i perswadiwyd i ffurfio parti dwsin o leisiau. Dyna fu'r symbyliad y tu ôl i sefydlu Côr Meibion Dyffryn Nantlle o'r newydd, a daeth i amlygrwydd mawr ar y radio gyda rhaglenni fel Noson Lawen, ac mae'r Côr yn dal mewn bodolaeth heddiw.

Dylid crybwyll hefyd y traddodiad cerdd dant yn y dyffryn ym mhersonau'r Brodyr Francis. Bu Griffith William Francis (1876-19 ) ac Owen William Francis (1879-1936) yn ddarlledu cerdd dant ar Radio Athlone, cyn bod sôn am orsaf y BBC ym Mangor.