Tai Elen Glynn
Mae Tai Elen Glynn yn elusendai yn Llandwrog, nid nepell o fferm Cefn Hengwrt. Mae'r adeilad presennol yn weddol fodern, er i'r hen elusendai fod ar yr un safle.
Fe'u sefydlwyd gan ewyllys Ellen Glynn, Bryn Gwydion. Bu i Ellen Glynn farw, mae'n debyg, yn ddibriod, ym 1733 ac iddi yn ei hewyllys ddyddiedig 31 Mawrth 1727, adael rhan helaeth o’i hystâd, sef rhannau o Eithinog Wen a thir Plas Newydd, er mwyn adeiladu elusendai ar gyfer deuddeg o ferched bonheddig a oedd mewn sefyllfa anffodus, megis diffyg arian neu oedd ag angen edrych ar eu hôl.[1] Yn ei geiriau hi, roedd y preswylwyr i fod yn "merched bonheddig dibriod ac bregus ("decayed" yn y gwreiddiol) ac yn hŷn na 50 mlwydd oed" ac roedd blaeoriaeth i'w rhoi i ferched oedd yn perthyn i'w theulu.[2] Mae'n ymddangos ei bod hi'n ofynnol i offeiriad y plwyf ddweud gweddïau yn yr elusendai bedair gwaith y flwyddyn, ar Ŵyl San Steffan, Gŵyl Fair, Gŵyl Sant Ioan Fedyddiwr a Gŵyl Sant Mihangel.[3]
Erbyn 1840, pan wnaethpwyd map o'r plwyf er mwyn pennu rhent y degwm, yr oedd 12 bwythyn ar gyfer pobl dlawd yno, gyda David Williams (sef ficer y plwyf, mae'n debyg) ac ymddiriedolwyr eraill yn gyfrifol amdanynt. Mary Jones oedd enw un o'r preswylwyr.[4]
Tua 1890, yr oedd yr elusendai mewn cyflwr gwael, a chodwyd adeilad newydd ar yr un safle, eto i roi cartref i ddeuddeg o ferched tlawd y plwyf, ac mae'n parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer darparu cartref i hen bobl. Mae'r elusendai ar ffurf sy'n atgoffa rhywun o fynachdy ardal Môr y Canoldir, o gwmpas iard. Cafodd yr adeilad ei ymestyn a'i addasu ym 1960, ac mae'n cael ei weinyddu bellach gan gorff cartrefi lleol.[5]
Cyfeiriadau
- ↑ J. Jones (Llanllyfni), Carn y Gewach, yn Y Brython, 16 Gorffennaf 1858, t.89
- ↑ A to Z of Westminster Abbey, Gwefan Abaty San Steffan, [1], cyrchwyd 31.12.2020
- ↑ Archifdy Caernarfon, Cofrestr plwyf Llandwrog, 1734-1767
- ↑ LLGC, Map a Rhestr Bennu'r Degwm ar gyfer plwyf Llandwrog [2]
- ↑ Gwefan COflein, [3], cyrchwyd 2.1.2021