Cilmin Droed-ddu

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:29, 5 Rhagfyr 2017 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Cilmin Droed-Ddu yn ffigwr chwedlonol a ymsefydlodd ar lan yr Afon Llifon ym mhlwyf Llandwrog. Credir iddo fod yn benteulu ar deulu’r Glyniaid yn Glynllifon ac mae ei droed ddu yn symbol a ymddangosai ar arfbais y teulu.

Chwedloniaeth

Mae amryw straeon ynglŷn a sut y daeth y gwr hwn i fod a troed ddu. Un fersiwn yw ei fod wedi ei hudo tua Tre’r Ceiri, i ddwyn llyfr cyfrin a oedd a gwybodaeth unigryw ynddi a oedd yn nwylo cythraul. Ar ôl ymdrech ffyrnig, llwyddodd i Cilmin gipio’r llyfr hwn – dim ond i gael ei hela gan weision y cythraul, ac wrth gyrraedd afon Llifon gollyngodd ei droed yn y dwr gan ei throi yn ddu ac yn boenus.

Fersiwn arall o’r stori yw ei hanes yn Llundain, pan ddaru gwr ofyn wrtho os yr oedd yn frodor o sir Gaernarfon. Pan atebodd yntau, ddaru o ofyn wrtho lle yr oedd y ‘Seler Ddu’ yn Arfon. Y stori yw fod Cilmin wedi dweud nad oedd yn gwybod, ac yna wedi mynd adref ac i’r ‘Seler’ hwn a darganfod trysorau gwerthfawr. Yn ôl y sôn, roedd baich y celwydd yn pwyso’n drwm ar Cilmin, a pan ddaru ei droed ddisgyn i bwll o ddŵr tywyll nid oedd yn gallu golchi’r droed yn lan. Credodd llawer fod mai dyma sut y sylfaenodd y teulu eu cyfoeth.

Ffynonellau

Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872).