Tal-y-mignedd Isaf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:55, 18 Rhagfyr 2020 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Tal-y-mignedd Isaf yn fferm fawr ar waelod rhan uchaf Dyffryn Nantlle gyda ffriddoedd eang ar lethrau gogleddol Cwm Ffynnon a Mynydd Tal-y-mignedd. Mae fferm Drws-y-coed i'r dwyrain a fferm Ffridd neu Ffridd-bala-deulyn i'r gorllewin. Mae Afon yn ffurfio'r ffin rhwng Tal-y-mignedd Isaf a Ffridd. Ym 1800 roedd yn eiddo i Richard Garnons, fel rhan o Ystad Pant Du.