R. Silyn Hughes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:29, 15 Rhagfyr 2020 gan Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Hanai R. Silyn Hughes (1933-2006) o bentref Tal-y-sarn yn wreiddiol er iddo dreulio'r rhan helaethaf o'i fywyd fel oedolyn yn Ardudwy. Roedd o'n unig blentyn Robert Hughes, (ganwyd 1877 ym mhlwyf Llandwrog) crydd yn Nhal-y-sarn, a'i wraig Lily (Parry)(1908-1960). Trwy ei ded, roedd yn gefnder i Arthur Festin Hughes, y polymath swil o bentref Llanllyfni. Cafodd ei dad ei fagu gan ei nain,

Bu'n athro ysgrythur ysbrydoledig yn Ysgol Ardudwy cyn symud i Goleg Harlech fel darlithydd yn dilyn Dafydd Elis-Thomas ym 1971. Bu hefyd yn un o arweinwyr yr ymgyrch i achub Y Las-ynys, cartref Ellis Wynne yn Nhalsarnau.

Mae'r actores a'r awdures, Llio Silyn, yn ferch iddo.[1]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol