Gorsaf reilffordd Pwllheli Road

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:05, 4 Rhagfyr 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Clynnog Road oedd enw'r orsaf a sefydlwyd ym 1856 ar Reilffordd Nantlle, pan ddechreuwyd cyhoeddi amserlenni a rhedeg trenau'n unswydd ar gyfer teithwyr - er mai tryciau agored a dynnid gan geffylkau oedd y trenau! Mabwysiadwyd yr enw gan Rheilffordd Sir Gaernarfon pan agorwyd y lein honno ar yr un llwybr â'r hen Reilffordd Nantlle, ond yn y man fe newidwyd yr enw i Llanwnda. Gwasanaethai'r tai o gwmpas treflan Graeanfryn, ond ei brif ddiben oedd darparu gorsaf ar gyfer ardal ehangach ar hyd y lôn fawr i gyfeiriad Clynnog Fawr - a hyd yn oed Pwllheli (cofier: ni fyddai rheilffordd yn cyrraedd y dref honno tan 1866). Er bod Gorsaf reilffordd Pen-y-groes (Rheilffordd Nantlle) lawn agosed, roedd y tramiau'n symud mor araf fel y byddai'n gynt gadael y trên yma yn hytrach na theithio ymlaen hyd Penygroes. - mae tai ar hyd y ffordd (e.e. Plas Glynllifon) yn dal i fod â "Clynnog Road" fel rhan o'u cyfdeiriad hyd heddiw!

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

[[Categori: ]]