Tom Huws

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:32, 13 Chwefror 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Tom Huws ym 1970
Tom Huws yn cael ei gadeirio. Cynan sydd ar y chwith eithaf

Roedd Y Prifardd Tom Huws (1910-1992) yn frodor o'r Groeslon. Cafodd ei eni 30 Mai 1910, i deulu uniaith Gymraeg, yn fab i Thomas Hughes ac Ellen ei wraig [1] - er mai fel Elin yr adwaenid hi gan bawb. Daeth trychineb i ran y teulu pan fu farw Elin y fam o'r diciáu yn 35 oed pan nad oedd Tom ond 5 oed. Ailbriododd y tad o fewn ychydig â chyfnither Elin, sef Lizzie, a chafwyd sawl plentyn o'r uniad hwnnw.

Fe'i bedyddiwyd yn Thomas Griffith Hughes, er mai Tom Huws fuodd o i bawb erioed. Cartref y teulu yn Y Groeslon oedd Dolnenan, ac roedd ganddo ddau frawd hŷn, David (neu Dafydd) ac Owen. Chwarelwr oedd y tad, ond "dyn ceffylau" oedd Tom ac fe adawodd ei gartref yn 14 oed i weithio mewn stablau ac fel joci. Yn y man, ac yntau'n 18 oed, fe ymunodd â Bataliwn y Marchfagnelau Brenhinol (Royal Horse Artillery) a gwasanaethodd gyda'r bataliwn yn yr Aifft am gyfnod. Bu gyda nhw tan ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Hoffai adrodd straeon am ei amser yn gofalu am geffylau'r fyddin.[2]

Wedi ei flynyddoedd yn y fyddin, aeth i'r chwarel i weithio i ddechrau, ac wedyn i fannau eraill cyn ymgeisio am le yng Ngholeg Harlech, "Coleg yr Ail Gyfle", er mwyn sicrhau addysg bellach, ac yr oedd yn un o'r ychydig ag ymgeisiodd i gael eu derbyn yno. Wedi treulio tymor yno, aeth i Goleg Cyncoed, Gaerdydd i hyfforddi fel athro dan gynllun i hyfforddi'r athrawon ychwanegol a oedd eu hangen wedi'r rhyfel. Bu'n athro mewn sawl ysgol, yr un gyntaf oedd Ysgol Gynradd Parc y Rhath yng Nghaerdydd,[3] cyn symud i Ysgol Glan Clwyd (Y Rhyl, a Llanelwy wedyn) ym 1960 fel athro Cymraeg, gan symud gyda'r teulu i fyw yn Y Rhyl. Ymddeolodd yn 65 oed ym 1975.[4] Rai blynyddoedd wedi iddo ymddeol, cyfansoddodd yr englyn canlynol ar gyfer llyfr llofnodion a gynhyrchwyd gan Glan Clwyd:

    Hiraeth hen athro am Ysgol Glan Clwyd 
Pallodd nwyd a'r breuddwydion - ddoe a'i nef,
ni ddaw nôl yr awron;
Daw hiraeth, hiraeth am hon
Alaeth, a chlwyf i'r galon.."[5]

Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1959 am bryddest ar y testun Cadwynau lle ymdriniodd â dirywiad y gymdeithas a'r cyni wedi i'r chwarel leol yn Nyffryn Nantlle gau. Mewn telegram yn ei longyfarch, geiriau'r Dr Iorwerth Peate oedd "O rebel i rebel".[6] Mae'r llinellau canlynol yn cyfleu naws y gwaith arobryn:

   Rhynllyd gefnau ar y waliau boliog,
   Stelcian, stilio a sgwrs,
   Sgwrsio am waith. Nid oes gwaith, wrth gwrs!
   Torri eu henwau ddydd Llun, a dydd Gwener,
   Loetran o gwmpas Tŷ'r Crydd a'r Lôn Newydd,
   A gwybod na ddychwel fyth hen lawenydd.[7]


Ymysg ei gerddi, mae soned a gyfansoddodd ar gyfer canmlwyddiant Capel Brynrhos (MC), Y Groeslon, Capel Brynrhos (1880-1980).[8]

Yn genedlaetholwr pybyr, bu'n llafar yn erbyn ymweliad teulu brenhinol Lloegr â'r Eisteddfod y flwyddyn ar ôl iddo gael ei goroni.

Am fideo o Tom Huws yn cael ei goroni, cliciwch yma: [[ [1]]].


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad Plwyf Llandwrog 1911
  2. Atgofion personol cyd-athro
  3. Gwybodaeth oddi wrth Philip Lloyd
  4. Wicipedia, [2]; gwybodaeth bersonol gan ei ferch, Non Huws
  5. Ymddangosir yma gyda chaniatâd y teulu
  6. Gwybodaeth gan ei ferch Non Huws
  7. Cyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon, 1959
  8. Archifdy Gwynedd, XM/6665/74