Bodgarad

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:40, 4 Rhagfyr 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffermdy hynafol ym mhlwyf Llanwnda yw Bodgarad.

Mae’n dyddio o’r 1620au o leiaf, ac mae’n adeilad rhestredig. Ymddangosai ar fap degwm o 1839, a chredir iddo fod ag olwyn dŵr ar un adeg. Mae’n ymddangos hefyd ar gofnodion treth tir 1802 a 1803 fel ‘Bod Angharad’, ac fel ‘Bodgared’ ar yr un cofnodion ar gyfer y 1770au. Mae fferm o’r enw Llwyn Angharad ger Bodaden hefyd, ond nid hawdd yw profi pwy oedd yr Angharad a enwir yma, a phaham fod ei henw ar y llefydd hyn.

Ffynhonnell

Carr, Glenda Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Gwasg y Bwthyn, 2011)