Afon Bach yr Ysgol
Rhed Afon Bach yr Ysgol o'r gogledd, dan ffordd y B4418 rhwng Victoria Terrace ac Ysgol Baladeulyn ac wedyn i mewn i Lyn Nantlle Uchaf. Mae mapiau Ordnans yn dangos ei bod wedi gwahanu oddi wrth brif ffrwd Afon Garth cyn i honno fynd o dan domennydd y chwarel, ger Tŷ Nant Uchaf. Hyd y gwyddys, nid oes enw ar y bont drosti ger yr ysgol.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma