Melin Pant-glas
Safai Melin Pant-glas, a falai rawn, ychydig i'r dwyrain o bentref Pant-glas ar lan nant sy'n llifo i Afon Dwyfach ger Pont Ynyspwntan. Roedd llyn melin yno i gryfhau llif y dŵr.
Ym 1865, John Williams, tenant fferm Ffridd y Clogwyn, oedd yn cadw'r felin.[1]
Roedd map Ordnans 1888 yn dangos y felin, ac felly mae'n dyddio'n ôl i'r 19g o leiaf. Erbyn map a dirfesurwyd ym 1913, nodir fod y felin wedi cau.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Llyfr rhenti plwyf Clynnog, 1865