Ann Beynon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:26, 14 Hydref 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Ann Beynon yn hanu o bentref Pen-y-groes ac yn ferch i'r diweddar Gynghorydd Plaid Cymru, Talfryn Jones a'i wraig Margaret.[1] Ei gŵr cyntaf hi oedd y dramodydd, Gwenlyn Parry. Wedi ei golli, priododd â Leighton Andrews, y cyn-weinidog yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae ganddynt ddau o blant.

Mynychodd Coleg y Brifysgol, Bangor, ac roedd y fenyw gyntaf i fod yn lywydd Undeb y Myfyrwyr yno. Mae hi'n rhugl mewn Ffrangeg.

Mae hi wedi ymgymryd â rolau mawr yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Ar hyn o bryd, mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol Hafren Dyfrdwy, is-gwmni sy’n eiddo’n gyfan gwbl i SevernTrent Water plc. Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol FUWIS (Gwasanaethau Yswiriant Undeb Ffermwyr Cymru) Mae hi’n aelod o’r Cyngor CBI i Gymru a hi yw ei gynrychiolydd ar Gyngor Busnes De-ddwyrain Cymru. Fel Cyfarwyddwr BT Cymru hyd at fis Gorffennaf 2015, hi oedd uwch gynrychiolydd y cwmni, gan oruchwylio ei agenda masnachol a pholisi yng Nghymru. Hi oedd Comisiynydd Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru hyd at fis Mai 2016. Roedd yn cadeirio Bwrdd Pontio Rhanbarth Prifddinas Caerdydd ar gyfer Llywodraeth Cymru hyd at fis Mai 2017 ac mae’n aelod o Dasglu’r Cymoedd Llywodraeth Cymru gyda phrif rôl mewn arloesedd.[2]


Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol
  2. Gwefan Clwstwr, cyrchwyd 15.10.2020 [1]