Bad achub Trefor
Agorwyd gorsaf Bad achub Trefor 19 Ebrill 1883, ac fe'i caewyd ym 1901. Yn swyddogol, galwyd yr orsaf yn orsaf bad achub Llanaelhaearn, gan mai yn y plwyf hwnnw y lleolwyd y cwch. Fe godwyd cwt i'r bad achub ger cei Cwmni Ithfaen Trefor. Penderfynwyd bod angen bad achub rhwng Portinlläen a Llanddwyn yn dilyn llongddrylliad y Cyprian, llong fawr a gollwyd ar y creigiau ger Cwmistir.
Yr unig fad achub parhaol i wasanaethu yn yr orsaf oedd y Cyprian, cwch modern hunan-gywirol (sef un a fyddai'n ei unioni ei hun pe bai'n troi â'i ben i waered). Enwyd y cwch hwn ar ôl y llong a ddrylliwyd wrth Gwmistir, ac fe'i cyflwynwyd yn rhodd i Sefydliad Cenedlaethol y Badau Achub er cof am gapten y Cyprian, Capten Strachan. Tawel fu hynt bad achub Trefor; roedd y cwch arferol, y Cyprian, yn cael ei atgyweirio a chwch dros dro aeth allan ar yr alwad gyntaf a gafwyd, na ddigwyddodd tan 1890, pan aeth allan ddwywaith yr un diwrnod i helpu'r sgwner Reknown o Abertawe, ac wedyn y sgwner Ceres o Gaernarfon. Unig wasanaeth y Cyprian ei hun oedd ar 24 Awst 1894, pan aeth allan i gynorthwyo cwch pysgota, yr Annie Jones.
Roedd cwt y bad achub yn union wrth ochr ddeuheuol yr hen gei yn harbwr Trefor.[1]
Arhosodd yr orsaf yn agored tan 1901 ond ni ddaeth galwad arall am wasanaeth y bad achub; erbyn hynny oedd y Cyprian yn annerbyniol o ran ei gyflwr a daethpwyd â'r orsaf i ben.[2]