Bryncynan (trefgordd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:54, 26 Mehefin 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Bryncynan yn drefgordd fechan a oedd wedi ei roi i glâs ac eglwys Clynnog Fawr fel gwaddol. Roedd ei ffiniau o fewn plwyf bresennol Clynnog Fawr yn ardal Pontlyfni. Fe ddelid y tir fel tir cyfrif gan rai nad oeddynt yn ddynion rhydd, h.y. nad oiedd ganddynt yr hawl i roi'r tir i neb arall nac i symud i ffwrdd.

Mae fferm bresennol o'r un enw yn tystio i'w leoliad. Fel mewn llawer achos, mae prif fferm (neu un o brif ffermydd) yr ardal a gynhwysid o fewn trefgordd yn parhau â'r enw hyd heddiw.

Mae rhai manylion am y drefgordd hon yn gynwysedig yn Stent Uwchgwyrfai 1352[1] Dyma gyfieithiad rhydd o'r manylion hynny:

BRYNCYNAN
Delir y drefgordd hon o dan Sant Beuno. Ac mae hi’n cael ei dal gan Madog Cewerent, Einion ap Cyfnerth ac eraill sydd yn daeogion i denantiaid rhydd Clynnog. Ac nid oes arnynt ardreth bob blwyddyn i’r Arglwydd Dywysog ond ar wahân i’r taliadau a’r dyletswyddau a ddangosir uchod yn y drefgordd uchod o Glynnog.

Yn groes i drefgorddi a arhosai o dan y Tywysog, ychydig o fanylion a geir yma, gan fod ychydig o ddiddordeb ariannol oedd gan y Tywysog, wedi i'r tir gael ei neilltuo ar gyfer yr eglwys.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838), t.27.