Hendref (Llanaelhaearn)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:53, 16 Tachwedd 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Hendref, neu Yr Hendref yw hen enw ardal isaf plwyf Llanaelhaearn, lle ceir pentref Trefor heddiw. Ni sefydlwyd y pentref tan yr 1850au, a chyn hynny, casgliad o ffermydd a thyddynnod oedd yn yr ardal. Mae ambell un hyd heddiw yn cyfeirio at yr ardal fel "'Rhendra". Hendre ei hun yn golygu fferm y gaeaf, lle cedwid y stoc dros y gaeaf. Yn yr haf, byddid yn gyrru'r anifeiliaid i dir uwch i bori tra thyfid cnydau a gwair ar y tir isel gorau yn yr hendre. Gellir gweld mor addas yw ardal Trefor fel man i sefydlu hendre oherwydd mae'r rhan fwyaf o blwyf Llanaelhaearn yn fwy mynyddig a/neu gorsiog.