Cymdeithas Caredigion Rhostryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:06, 26 Ebrill 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ni wyddys fawr am Gymdeithas Caredigion Rhostryfan ar wahân i'r ffaith mai cymdeithas gyfeillgar o ryw fath oedd yn Rhostryfan a sefydlwyd i helpu'r anghenus. Ysgrifennydd olaf y gymdeithas oedd Ellis Jones, Glan'rafon, Rhostryfan, garddwr ac wedyn chwarelwr, ac ysgrifennydd Capel Horeb (MC), Rhostryfan, dyn a nodweddid gan ei ysgrifen gain a'i drefnusrwydd.

Daeth y gymdeithas hon i ben ym 1842, ond y flwyddyn ganlynol, sefydlwyd Cymdeithas Gynorthwyol Rhostryfan yn ei lle ym 1843. Ar farwolaeth Ellis Jones ym 1857 fe'i olynwyd gan William Hughes, Y Siop, (1814-1877) blaenor yn Horeb ar ôl 1860. [1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.226-7, 231