Cymdeithas Caredigion Rhostryfan
Ni wyddys fawr am Gymdeithas Caredigion Rhostryfan ar wahan i'r ffaith mai cymdeithas cyfeillgar o ryw fath oedd yn Rhostryfan a sefydlwyd i helpu'r anghenus. Ysgrifennydd olaf y gymdeithas oedd Ellis Jones, Glan'rafon, Rhostryfan, garddwr ac wedyn hwarelwr, ac ysgrifennydd Capel Horeb (MC), Rhostryfan, dyn a nodweddid gan ei ysgrifen gain a'i drefnusrwydd.
Daeth y gymdeithas hon i ben ym 1842, ond y flwyddyn ganlynol, sefydlwyd Cymdeithas Gynorthwyol Rhostryfan yn ei le ym 1843.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.226-7