Gorsaf reilffordd Llanwnda

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:47, 4 Mehefin 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Enw gwreiddiol Gorsaf Llanwnda oedd Clynnog Road. Roedd cyn lleied o dai yn yr ardal fel mai prif bwrpas yr orsaf oedd gwasanaethu'r tir isel ger y môr sy'n ymestyn o Lanwnda i Glynnog-fawr a Threfor, gan nad oedd gorsaf agosach i'r mannau hynny. Mae'r safle bellach yn faes parcio ar gyfer Lon Eifion, gyferbyn â thafarn (gaeëdig) y Goat. Roedd yn 900 llath o orsaf Dinas ar y naill ochr, ac ychydig dros filltir o orsaf Y Groeslon ar y llall.

Nid oedd yno ond un platfform ac un seidin a ddefnyddid ar gyfer wagenni glo fel arfer.

Tua diwedd y 19eg ganrif, roedd gwaith trwsio wagenni y tu ôl i resdai Gwêl-y-môr. Yng nghyfeiriadur Sutton am 1889-90, dangosir manylion y cwmni bach hwn, sef R Williams a'i fab, depo gwagenni rheilffordd.[1] Roedd seidin ar gyfer y gwaith hwn yn arwain oddi ar y brif lein i'r darn tir sydd bellach yn goedlan rhwng Lôn Eifion a ffordd yr A487.

Fe agorwyd yr orsaf gan Reilffordd Sir Gaernarfon ym 1867 ar safle hen orsaf Rheilffordd Nantlle, ac fe'i chaewyd gan Reilffyrdd Prtydeinig ym 1964.

Ffynonellau

LMS Branch Lines in North Wales, W.G.Rear, Wild Swan Publns., (1986) 
  1. '