John Hutton

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:40, 24 Ebrill 2020 gan Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

John Hutton oedd Prif Oruchwyliwr a pherchennog Chwarel yr Eifl, Trefor, o 1865. Penderfynodd Samuel Holland werthu Chwarel y Gwylwyr yn Nefyn (a agorwyd ym 1844) tua 1846-47, ac fe'i prynwyd gan ŵr busnes ifanc iawn, o'r enw John Hutton. Yn stiward i Holland yn y Gwylwyr roedd Trefor Jones, ac ym 1850 daeth Hutton a Jones dros yr Eifl a chanfod fod y garreg a gloddid yn Hen Ffolt y Gorllwyn yn rhagori ar garreg y Gwylwyr a charreg Penmaenmawr. Prynodd Hutton y mân gwmnïau a weithiai yn yr Hen Ffolt, ynghyd â'r brydles oedd gan John Heyden, a'u llyncu i'w gwmni ei hun, y Cwmni Ithfaen Cymreig (Welsh Granite Company) oedd gynt yn cynnwys Chwarel y Gwylwyr, Nefyn, a Chwarel Tŷ Mawr, Pistyll.

Brodor o Leeds, Swydd Efrog, oedd Hutton, ac fe'i ganwyd ym 1824. Felly, doedd o ond yn chwech asr hugain oed pan ddaeth dros y mynydd i'r Gorllwyn.