Eric Jones
Eric Jones oedd olynydd J.R. Morris yn y Siop Lyfrau Gymraeg enwog yn y Bont Bridd, Caernarfon. 'Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama' oedd y geiriau oedd yn ysgrifenedig uwchben ei drws.
Roedd Eric Jones yn byw ym mhentref Pontlyfni. Byddai'n dal Moto Coch hanner awr wedi wyth bob bore i fynd i'w waith, ond byddai'n aml yn hwyr yn cyrraedd y bont. Ond doedd dim rhaid iddo bryderu. Byddai'r Moto Coch yn gofalu aros yn ei unfan hyd nes byddai Eric Jones wedi cyrraedd. Roedd yn genedlaetholwr hollol ddigymrodedd.
Bu farw ym 1982.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma