Ysgol Capel Horeb, Rhostryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:53, 22 Ebrill 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Agorwyd Ysgol Capel Horeb fel ysgol breifat dan nawdd Capel Horeb (MC), Rhostryfan gan ddyn o'r enw Ellis Thomas yn nechrau'r 1840au, ac yn ogystal â'r tâl a dderbyniai gan y rhieni, cyfrannai'r capel hefyd at ei chynnal. Fe ymadawodd tua 1846 â'r tŷ capel fodd bynnag, ac aeth rhai o'r plant i'r ysgol eglwysig yn y Bontnewydd tra aeth eraill i ysgol a gynhelid ym Melin Forgan ger Capel Bryn'rodyn.

Ym 1849, penderfynodd y capel y dylid ceisio sefydlu ysgol mwy effeithiol, a chafwyd gwasanaeth Benjamin Rogers fel ysgolfeistr, a ddaeth o Abergele i Rostryfan. Am rai blynyddoedd cynhelid yr ysgol yn y capel nes adeiladu ysgoldy newydd ym 1855, gyda lle ar gyfer 100 o blant. Ariannwyd yr adeilad yn llwyr gan y capel heb grant, gan nad oedd yn cydymffurfio, ysywaeth, â gofynion yr awdurdodau.