Ponciau Chwarel yr Eifl
Wyth o bonciau mawrion geir - yn swyddogol, felly - yn Chwarel yr Eifl, Trefor. Dwy bonc oedd i'r chwarel gyntaf ar Graig y Farchas, ond mae'r chwarel honno o'r golwg ers cyn cof dan y Domen Fawr yn y Gorllwyn.
Yng nghofnodion y Cwmni, yn Saesneg yr enwir yr wyth bonc sydd i'w gweld ar ochr ogleddol mynydd Garnfor (Mynydd Gwaith ar lafar) a hynny'n ffurfiol ac oeraidd :
0 Bank / 1 Bank / 2 Bank / 3 Bank / 4 Bank / 5 Bank / 6 Bank / 7 Bank / 8 Bank
Enwau Cymraeg roddwyd arnynt gan y chwarelwyr :
(0 Bank) Bonc Dwll. Rhywle rhwng Bonc Dwll a Bonc Isa, yn gynnar iawn yn hanes y Gwaith, bu unwaith bonc arall heb rif arni. Yr enw roddwyd ar honno oedd Bonc Bennog, ond fe'i llyncwyd maes o law gan Bonc Dwll.
(1 Bank) Bonc Isa
(2 Bank) Bonc Ganol
(3 Bank) Bonc Drydydd
(4 Bank) Bonc Bach
(5 Bank) Bonc Newydd, a lyncodd maes o law Bonc Gynffon, a thyfu i fod y bonc fwyaf yn yr holl chwarel
(6 Bank) Bonc Gynffon
(7 Bank) Bonc Seithfed
(8 Bank) Bonc Wythfed
Dyma uchder chwech o'r ponciau uwch lefel y môr :
Bonc Dwll 560 troedfedd
Bonc Isa 640 troedfedd
Bonc Ganol 730 troedfedd
Bonc Drydydd 837 troedfedd
Bonc Bach 1,020 troedfedd
Bonc Newydd 1,100 troedfedd