Gefail y Groeslon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:24, 12 Ebrill 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd gefail y Groeslon yn weithredol mor gynnar â 1772, pan fedyddiwyd Ellin, merch Owen Parry o'r Groeslon, gof a'i wraig Jane.[1] Cofnodir ymhellach gladdedigaeth Jane Morris, gwraig Owen Parry, gof o "Groes-lon Grugan", 4 Mawrth 1801. Mae tystiolaeth bellach yn y gofrestr blwyf fod Owen Parry'n dal yn yr efail hyd 1809 o leiaf.[2] Credir mai ar y groesffordd yr oedd yr efail hon, lle roedd y lôn o'r mynydd i'r môr yn croesi'r ffordd o Gaernarfon i gyfeiriad Dyffryn Nantlle, a dichon mai enw'r tŷ wrth yr efail oedd "Groeslon" ar y pryd.

Mae'n debyg i'r efail barhau yn y fan honno o leiaf hyd nes ddaeth Rheilffordd Nantlle ym 1828.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Cofrrestrau Plwyf Llandwrog, 1772
  2. Archifdy Caernarfon, XPE/24/10 Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1801-9