Rhedynog Felen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:32, 16 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Rhedynogfelen yn hen annedd ac yn fferm yn rhan isaf plwyf Llanwnda, a cheir cyfeiriad cynnar i’r lleoliad yma o gwmpas 1673. Heddiw mae ffermdy yn ogystal a thŷ swmpus ar y safle. Ceir yr ysgrif ‘1673 I L A’ ar lechen yn y tŷ, a chredir i hyn fod yn gyfeiriad at ei pherchnogion ar un adeg. Roedd y sefydliad hwn hefyd yn drefgordd ac yn le o statws a pwysigrwydd sylweddol yn yr ardal.

Mae cyfeiriad i’r lle yma hefyd yn dyddio i 1180, ym Mrut y Tywysogion. Mae awgrym hefyd i’r lleoliad ym ei roi fel rhodd i fynachod Aberconwy, gan ei fod yn cael ei chysylltu a’r Abaty yn aml. Os yw hyn yn gywir, mae’n cryfhau’r ddadl fod y lle yma wedi bod yn fynachdy ei hun ar un cyfnod. Fel y traddodiad, fyddai’r sefydliad yma mewn angen i gael ei fferm ei hun, neu ‘cwirt’/’cwrt’ fel y gelwir. Mae’r ffaith fod Cefn Hengwrt a Beudy Gwyn yn agos i Rhedynogfelen felly yn dangos fod yr angen yma wedi bodoli ar un cyfnod.

Mae tir Rhedynogfelen wedi bod yn nwylo rhai o deuluoedd nodedig y Sir ar adegau, cyn cael ei werthu ymlaen a’i hollti mewn maint pob tro. Tybir mai hyn yw achos y ffaith fod ei statws a’r cof ohoni fel lleoliad pwysig wedi diflannu.

Ffynonellau

Cofnod am Rhedynogfelen ar wefan y Comisiwn Brenhinol.

Williams, W. Gilbert Moel Tryfan i’r Traeth: Erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes 1983)